Andy Legg, hyfforddwr Llanelli
Mae Cochion Llanelli’n yn hyderus eu bod nhw ar drothwy buddugoliaeth gofiadwy yng nghystadleuaeth Cynghrair Ewropa heno.

Wedi dwy gôl gan Jordan Fellows yn y cymal gyntaf gartref yn erbyn Dinamo Tbilisi yr wythnos ddiwethaf, mae Llanelli’n teithio i brifddinas Georgia 2-1 ar y blaen.

“Does gennym ni ddim byd i’w golli ac mae’r pwysau i gyd ar Dinamo Tbilisi,” mynna’r rheolwr, Andy Legg, wrth y BBC.

“Mae pawb yn eu disgwyl nhw i’n curo ni. Gallwn ni fynd allan ac ymlacio a thrio’n gorau. Mae pawb yn edrych ymlaen at y gêm, ond rydym ni’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn anodd i ni.”

Yn wir, mae gan amryw o chwaraewyr Tbilisi dipyn mwy o brofiad na charfan Llanelli. Mae eu hymosodwr, er enghraifft, wedi chwarae i Valencia 55 o weithiau ac eisoes wedi ennill y cwpan Ewropa gyda hwy.

Mae’n bosib fod canlyniad wythnos ddiwethaf wedi brawychu’r clwb o Ddwyrain Ewrop, ond fe fydden nhw’n gwybod llawer mwy am Lanelli erbyn yr ail gymal heno. Ond mae Legg yn optimistaidd:

“Mae gennym ni chwaraewyr galluog ein hunain sydd yn gallu sgorio yn eu herbyn. Mi fyddwn ni’n mynd yno yn teimlo’n hyderus iawn.”

Erioed wedi bod yn bellach

Mae prif sgoriwr y clwb, Rhys Griffiths, yn ategu hynny. Methodd y cymal cyntaf oherwydd iddo gael ei wahardd, ond mae’n credu fod siawns dda y gallent drechu Tbilisi ar eu tir eu hunain heno.

“Fe all y ffaith fod torf fawr o 55,000 weithio yn eu herbyn nhw. Os na fydden nhw wedi sgorio o fewn ryw hanner awr, fe all y dorf droi arnyn nhw,” meddai ar wefan swyddogol Llanelli.

Dyw’r clwb erioed wedi bod ymhellach na’r cam hwn yn y gystadleuaeth, ond mae Griffiths yn dweud fod y garfan yn barod am yr her. “Mae’r bois yn edrych ymlaen. Maen nhw’n glwb mawr gyda llawer o draddodiad, felly mi fyddai eu curo nhw yn ganlyniad enfawr i ni.”

Un hwb i Lanelli yw bod Chris Venables a Chris Holloway yn dychwelyd ynghyd a Griffiths. Ond eto, mae Martyn Giles a Craig Moses wedi’u gwahardd ac mae Lloyd Grist a Kris Thomas yn dal i fod ag anafiadau.

Hefyd, fe fydd Y Seintiau Newydd yn herio FC Midtjylland heno yn eu gornest hwy yn yr un bencampwriaeth.

Maent ar ei hol hi 1-3 yn erbyn y clwb o Ddenmarc wedi’r cymal cyntaf gartref yn Nghroesoswallt yr wythnos ddiwethaf.