Andy Legg yw chwaraewr-reolwr Llanelli
Bu buddugoliaeth felys i Fois y Sosban yn erbyn un o gewri’r hen Undeb Sofietaidd neithiwr.

Mi guron nhw Dinamo Tblisi, prif dîm prifddinas gwlad Georgia sydd â phoblogaeth o 4.7 miliwn.

30 o flynyddoedd yn ôl mi gipiodd Tblisi Gwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, ac yn ystod eu hoes aur roedden nhw’n ymgiprys â Dynamo Mosco a Dynamo Kiev am brif dlysau’r Undeb Sofietaidd.

Ond Llanelli aeth â hi o ddwy gôl i un gartre’ neithiwr ar Barc y Scarlets, yn erbyn tîm oedd yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol Georgia a gŵr o Frasil.

Sgoriodd Jordan Follows y ddwy, ac ar ddiwedd y gêm roedd y chwaraewr-reolwr Andy Legg yn brolio mai dyma un o berfformiadau gorau unrhyw dîm o Gymru yn Ewrop.