Mae Brendan Rodgers yn ceisio cryfhau carfan Abertawe
Mae Abertawe’n agos at arwyddo chwaraewr canol cae Villarreal, Marcos Senna.
Roedd y Sbaenwr yn rhan o’r garfan ryngwladol enillodd Pencampwriaeth Ewrop 2008 ac mae wedi cael ei gysylltu gyda Man Utd a Barcelona yn y gorffennol.
Mae cytundeb Senna wedi dod i ben ac mae wedi cynnal trafodaethau gyda’r Elyrch ynglŷn â symud i dde Cymru.
Mae Eli Coimbra, cynrychiolydd Marcos Senna, wedi cadarnhau bod Brendan Rodgers wedi siarad gyda’r chwaraewr canol cae a bod trafodaethau dros gytundeb yn symud yn gyflym.
Yr unig broblem i’r Elyrch ar hyn o bryd yw cyflog Senna, gyda’r Sbaenwr yn debygol o ofyn am £20,000 yr wythnos.
Ond mae Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud bydd y clwb yn gwario rhan o’r £90 miliwn ddaeth yn sgil dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair i brynu chwaraewyr newydd.