Malky Mackay (o wefan Watfor
Mae’n ymddangos yn fwy a mwy tebyg mai Malcolm ‘Malky’ Mackay fydd rheolwr nesa’ Caerdydd.
Mae clwb Watford bellach wedi rhoi caniatâd i’r Gleision siarad gyda’r Albanwr a oedd wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Saeson ynghynt eleni.
Ddoe, roedd Cadeirydd Watford wedi gwrthod y cais, ond fe gyhoeddodd hefyd y byddai’n trafod gyda bwrdd cyfarwyddwyr y clwb yn ddiweddarach.
Mae’r ffaith eu bod bellach yn fodlon i Gaerdydd siarad gyda Mackay yn awgrymu bod y ddau glwb wedi cytuno ar daliad i wneud iawn am ddod â’i gytundeb i ben.
Mae Caerdydd hefyd wedi cadarnhau eu bod yn rhoi cynnig am MacKay.
Y cefndir
Ddechrau eleni, roedd Mackay wedi gwrthod cyfle i fynd yn rheolwr Burnley ac, yn ôl rhai i fod yn ddirprwy yn Newcastle.
Ond mae Watford wedi gorfod gwerthu rhai o’u chwaraewyr gorau ers diwedd y tymor diwetha’.