Malky Mackay (o wefan clwb Watford)
Fe fydd Watford yn gwneud popeth allan nhw i rwystro’u rheolwr Malky Mackay rhag mynd i Gaerdydd.

Fe gadarnhaodd y clwb o gyrion Llundain bod Caerdydd wedi gwneud cais am gael siarad gyda’r rheolwr, ond eu bod nhw wedi gwrthod.

“D’yn ni ddim eisiau i Malky adael Watford ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gadw yn Vicarage Road,” meddai perchennog y clwb, Laurence Bassini.

Ynghynt heddiw, roedd cyn chwaraewr Lloegr, Alan Shearer, wedi gwneud yn glir na fyddai yntau’n dod i Gaerdydd ar ôl cael trafodaethau.

Mae Mackay’n rheolwr yn Watford ers dwy flynedd union – cyn hynny roedd wedi chwarae i’r clwb ac i nifer o glybiau eraill fel Celtic. Fe gafodd bum cap i’r Alban.