Mae cadeirydd Abertawe wedi dweud y bydd y clwb yn ystyried gwneud Stadiwm Liberty yn fwy.
Yn ôl Huw Jenkins byddai’r Elyrch yn fodlon cynyddu nifer y seddi yn y stadiwm er mwyn gallu datblygu’r clwb ymhellach.
Gall 20,500 o bobl wylio Abertawe’n chwarae ar hyn o bryd – ond y tymor nesa’ y Liberty fydd ail stadiwm lleiaf Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae’r clwb eisoes wedi gwerthu 16,000 o docynnau tymor, sy’n gadael y clwb gyda 2,000 o docynnau i’w gwerthu i ffans y Swans, gyda’r 2,000 arall yn mynd i gefnogwyr y timau sy’n ymweld ag Abertawe.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o sut ryda ni’n gwneud pethau ac ryda ni’n ymwybodol i beidio rhoi’r cart o flaen y ceffyl,” meddai Huw Jenkins wrth bapur The Western Mail.
“Ein blaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau ein bod ni’n gwerthu pob tocyn i’r gêmau, ac mae’n debygol y gallwn ni wneud hynny.
“Ond yn amlwg mae’r clwb wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf ac fe fyddwn yn edrych ar sut allwn ni gadw’r clwb i symud ymlaen. Byddai hynny’n cynnwys cynyddu maint y stadiwm.”