Abertawe yn Wembley
Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud na fydd y clwb yn gwario’r wirion ar ôl cael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr.

Bydd y clwb o dde Cymru yn derbyn miliynau o bunnoedd ychwanegol wrth iddynt esgyn i’r brif adran.

Ond mae’r cadeirydd wedi dweud y bydd y clwb yn parhau i fod yn ofalus wrth wario ei arian er gwaethaf y temtasiwn.

“Fe fydd y clwb yn parhau i weithred fel r’yn ni wedi ei wneud erioed,” meddai Huw Jenkins wrth bapur y Western Mail.

“Mae’r math o arian sy’n dod wrth fod yn yr Uwch Gynghrair yn gallu cynnig pob math o demtasiynau… ond fe gafodd yr un peth ei ddweud ar ôl i ni ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth.

“Roedd y symiau oedd yn cael ei wario yn y Bencampwriaeth yn enfawr i gymharu â beth oedd yn cael ei wario yn y cynghreiriau is.

“Roedd ein cyllid yn y Bencampwriaeth gyda’r isaf yn yr adran ac ni fydd hynny’n newid yn yr Uwch Gynghrair.”

Mae’r cadeirydd yn dweud bod y clwb yn gobeithio cryfhau’r garfan ond mai’r peth pwysicaf oedd cadw’r undod o fewn y clwb.

“Fe fyddwn ni’n parhau i chwilio am chwaraewyr ymroddedig sy’n gweddu ag aelodau’r garfan bresennol,” meddai.

“Mae gennym ni’r arian nawr i dargedu chwaraewyr a dod a nhw i’r clwb.”