Wrth edrych ymlaen at y gêm fawr nos Lun, mae chwaraewr canol cae Abertawe, Stephen Dobbie, yn gobeithio ailadrodd ei lwyddiant yn Wembley y llynedd.
Bryd hynny, pan oedd yr Albanwr ar fenthyg i Blackpool, llwyddodd i helpu sicrhau dyrchafiad i’w dîm trwy sgorio mewn gêm gyffrous yn erbyn Caerdydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Bellach, ar ôl sgorio gôl dros yr Elyrch i guro Nottingham Forest yn ail gymal y gêm gyn-derfynol yr wythnos ddiwethaf, mae Dobbie ar ei ffordd yn ôl i Wembley unwaith eto.
“I mi sydd wedi tyfu i fyny a gwylio gemau terfynol yn Wembley, feddyliais i erioed y byddwn i yno unwaith heb sôn am ddwywaith mewn dwy flynedd,” meddai.
“Felly mae’n freuddwyd i mi, ac mae’r bechgyn yn edrych ymlaen yn eiddgar.”
Dial
Yn ogystal â rhoi cyfle i Abertawe godi i’r Uwch Gynghrair, fe fydd y gêm nos Lun yn gyfle i’r rheolwr Brendan Rodgers gael dial ar Reading, y clwb a adawodd ym mis Rhagfyr 2009.
Roedd wedi gweithio gydag academi’r clwb am naw mlynedd o 1995, ac wedi dychwelyd yno o Chelsea fel rheolwr ym mis Mehefin 2009.
Mae wedi gwneud gwaith rhagorol fel rheolwr Abertawe ers mis Gorffennaf y llynedd, yn ôl Stephen Dobbie.
“Mae’r gaffer yn ffantastig, ac wedi trawsnewid y tîm o fod yn un sy’n amddiffyn i un sy’n ymosod,” meddai.