Jack Collison (Egghead06 CCA 3.0
Mae dau o chwaraewyr West Ham yn ôl yn nhîm Cymru, am wahanol resymau.

Fe fydd Jack Collison yn ail afael yn ei yrfa ryngwladol ar ôl bron flwyddyn a hanner wedi’i anafu.

Ac mae Danny Gabbidon yn y tîm ar ôl dweud ei fod yn ymddeol o’r gêm ryngwladol ddwy flynedd yn ôl.

Maen nhw ymhlith deg o newidiadau yn y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon heno yng Nghwpan y Cenhedloedd.

Fe fydd chwaraewyr profiadol eraill, fel Craig Bellamy, Aaron Ramsey, Wayne Hennessy a David Vaughan yn helpu’r rheolwr Gary Speed i chwilio am ei fuddugoliaeth gynta’.

Ramsey – ‘2014 yn bosib’

Ac, ar drothwy’r gêm, mae’r capten newydd, Ramsey, wedi dweud ei bod yn bosib i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014.

Er gwaetha’ methiannau’r gorffennol, roedd y sgwad ifanc yn cynnig gobaith, meddai.