Mae tri o chwaraewyr Llanelli wedi eu dewis yn Nhîm y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r amddiffynwyr Stuart Jones a Chris Thomas wedi eu dewis ynghyd a’r ymosodwr Rhys Griffiths.
Mae gan bencampwyr yr adran, Bangor, dau chwaraewr yn y tîm. Mike Johnston a Dave Morley sydd wedi’u dewis.
Mae amddiffynnwr y Seintiau Newydd, Danny Holmes ynghyd a’r asgellwr Craig Jones wedi cael eu cynnwys, tra bod gan Gastell-nedd hefyd gyda dau gynrychiolydd – y gôl-geidwad Lee Idzi a’r asgellwr Chris Jones.
Chwaraewr canol cae’r Bala, Mark Jones, yw’r unig chwaraewr o Faes Tegid i gael ei ddewis tra bod Lee Hunt yn cynrychioli Prestatyn.
Tîm y Flwyddyn
Golwr- Lee Idzi (Castell-nedd)
Amddiffynwyr- Danny Holmes (Seintiau Newydd) Mike Johnston (Bangor) Stuart Jones (Llanelli) Chris Thomas (Llanelli)
Canol cae- Craig Jones (Seintiau Newydd) Mark Jones (Y Bala) Dave Morley (Bangor) Chris Jones (Castell-nedd)
Ymosodwyr- Lee Hunt (Prestatyn) Rhys Griffiths (Llanelli)
Enwebiadau am Chwaraewr y Flwyddyn
Rhys Griffiths (Llanelli)
Craig Jones (Seintiau Newydd)
Mike Johnston (Bangor)
Enwebiadau am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn
Kai Edwards (Prestatyn)
Danny Holmes (Seintiau Newydd)
Chris Jones (Castell-nedd)