James Collins
Mae amddiffynwr Aston Villa, James Collins, wedi tynnu ‘nôl o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Cenhedloedd oherwydd anaf.

Mae Collins wedi anafu ei werddyr ac mae Adam Matthews, a fydd yn gadael Caerdydd i ymuno â Celtic dros yr haf, yn cymryd ei le.

Adam Matthews yw’r pumed chwaraewr i gael ei ychwanegu at y garfan fydd yn wynebu’r Alban a Gogledd Iwerddon ers i’r rheolwr Gary Speed ei gyhoeddi’n wreiddiol.

Mae Owain Tudur Jones eisoes wedi cymryd lle Dave Edwards tra bod Craig Morgan, Andy Dorman and Jermaine Easter hefyd wedi ymuno gyda’r garfan.

Bydd Cymru heb Ashley Williams, Joe Allen, Simon Church a Hal Robson-Kanu am eu bod nhw’n chwarae yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ddydd Llun nesaf.

Ond mae amddiffynnwr yr Elyrch, Neil Taylor, yn rhan o garfan Cymru am na fydd ar gael i chwarae dros Abertawe oherwydd gwaharddiad.

Bydd Cymru’n wynebu’r Alban nos Fercher cyn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon dau ddiwrnod yn ddiweddarach.