Mae Abertawe wedi cyhoeddi bod pob tocyn wedi mynd ar gyfer ail gymal y gemau ail gyfle yn erbyn Nottingham Forrest yn Stadiwm Liberty nos Lun.

Bydd disgwyl i tua 20,500 o gefnogwyr fod yn bresennol ar gyfer yr ail gymal lle bydd tîm Brendan Rodgers yn chwarae am le yn y rownd derfynol. 

Fe ddaw’r newyddion llai na diwrnod ar ôl i’r Elyrch sicrhau gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf yn y City Ground. 

Bu rhaid i’r tîm o Gymru chwarae mwyafrif o’r gêm gyda deg dyn ar ôl i’r amddiffynnwr Neil Taylor gael ei anfon o’r cae wedi munud o’r gêm. 

Mae’r canlyniad yn rhoi Abertawe mewn safle cryf iawn i fynd ymlaen i’r rownd derfynol yn Wembley ar ddiwedd y mis.