Brendan Rodgers
Nottingham Forest 0   Abertawe 0

Mae rheolwr Abertawe wedi canmol ei chwaraewyr i’r cymylau ar ôl iddyn nhw lwyddo i gael gêm gyfartal yng nghymal cynta’ eu gêm ail gyfle yn Nottingham Forest.

Roedd hynny, er eu bod i lawr i ddeg dyn ar ôl dim ond munud, wrth i’r amddiffynnwr Neil Taylor gael ei anfon o’r cae am dacl uchel a pheryglus.

Ond, am rannau helaeth o’r gêm ar y City Ground, yr Elyrch oedd orau ac ychydig iawn o gyfleoedd a gafodd Forest sydd wedi bod yn sgorio’n gyson yn eu gêmau diwetha’.

I gyn chwaraewr Caerdydd, Robbie Earnshaw, y daeth un o’r rheiny ond, er iddo rwydo, fe gafodd y gôl ei gwrthod.

‘Haeddu clod’

“Roedd yn berfformiad gwych,” meddai rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedyn. “Mae fy chwaraewyr yn haeddu’r holl glod y maen nhw’n ei gael.”

Fe fydd yr ail gymal yn Abertawe nos Lun, gyda’r nod o gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley. Fe fydd enillwyr honno’n mynd i’r Uwch Gynghrair y tymor nesa’.

Mae Caerdydd yn chwarae yn erbyn Reading heno  yn y rownd gyn-derfynol arall.