Dave Jones, hyfforddwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn credu fod gan ei dim y gallu i fynd gam ymhellach yn y gemau ail gyfle eleni.

Daeth yr Adar Glas o fewn trwch blewyn i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd, cyn colli yn erbyn Blackpool yn y rownd derfynol.

Dywedodd Jones fod y clwb wedi rhoi’r tymor arferol y tu cefn iddynt ac yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar faeddu Reading yn Stadiwm Madejski nos Wener.

“Mae gennym ni gyfle gwych i ennill dyrchafiad ac rwy’n credu bod gennym ni’r gallu i wneud hynny,” meddai Dave Jones.

“R’yn ni gyd yn ymwybodol o’r hyn sydd angen ei wneud a does ofn dim wynebu Reading arnom ni.

“Mae pawb yn edrych ymlaen at y ddwy gêm nesaf ac yn hyderus yn yr hyn y gallwn ni ennill y dydd.

“Mae’r chwaraewyr a’r staff yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau dyrchafiad. Roedden ni wedi dod yn agos llynedd ond mae’n rhaid i ni anghofio am hynny nawr.

“Mae angen un ymdrech mawr arall, ac mae gen i bob ffydd y gallwn ni gwireddu’r freuddwyd.”