Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud ei fod yn siomedig na lwyddodd ei dim i orffen yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth eleni.

Dywedodd y rheolwr eu bod nhw’n ddigon da i sicrhau dyrchafiad awtomatig, ond fod canlyniadau anghyson oddi cartref wedi mynd yn drech â nhw.

Norwich a QPR gipiodd y ddau safle uchaf a bydd rhaid i Abertawe frwydro drwy’r gemau ail gyfle er mwyn sicrhau lle yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Ein nod oedd gorffen yn ail. Ond r’yn ni wedi cael ail gyfle,” meddai Brendan Rodgers.

“Rwy’n cofio gwylio’r teledu ar ddechrau’r tymor pan oedd pobl yn proffwydo pwy fyddai’n gorffen yn y chwech uchaf.

“Doedd Abertawe ddim yn eu plith nhw, hyd yn oed wrth ystyried clybiau nad oedd ymysg y ffefrynnau.

“Ond mae’r chwaraewyr wedi bod yn ardderchog ac rwy’n credu bod pobl wedi mwynhau ein gwylio ni’n chwarae.”

Mae Brendan Rodgers o’r farn mai Nottingham Forest fydd yn dechrau yn ffefrynnau ar y City Ground.

Collodd yr Elyrch 3-1 yn eu herbyn oddi cartref yn gynharach yn y tymor.

“Roedden ni wedi chwarae yn wael y diwrnod hwnnw, ond wedi cael peth o’r meddiant,” meddai.

“Y nod fel arfer yw ennill y gêm. Ond beth sydd bwysicaf y tro yma ydi ein bod ni dal ynddi erbyn yr ail gymal.”