Mae’r Seintiau Newydd wedi rhyddhau chwe chwaraewr o’u carfan, wrth ddechrau ar y gwaith o ail-adeiladu ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r chwaraewr canol cae Jamie Wood wedi ei ryddhau wedi wyth blynedd gyda’r clwb. Fe sgoriodd 37 gôl mewn 180 o ymddangosiadau ers ymuno o Abertawe.
Mae’r Seintiau Newydd heb gynnig cytundeb newydd i’r asgellwr Craig Williams chwaith. Fe dreuliodd Williams ail hanner y tymor ar fenthyg gyda’i gyn-glwb Llanelli.
Mae clwb Park Hall hefyd wedi rhyddhau pedwar chwaraewr ifanc oedd wedi datblygu trwy’r system ieuenctid.
Mae John McKenna, Craig Whitfield, Ryan Marriott a Sean Jones wedi gadael y clwb wrth i’r Seintiau Newydd gynllunio ar gyfer y tymor newydd.
Y gobaith fydd adennill coron Uwch Gynghrair Cymru oddi ar Fangor.