Queens' Park Rangers
Mae cyn-brif weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi dweud ei fod yn credu y bydd QPR yn colli pwyntiau yn y gynghrair ar ôl iddynt gael eu cyhuddo o dorri rheolau.

Dywedodd Mark Palios bod tîm Neil Warnock yn wynebu colli o leia’ deg pwynt os fydd y clwb yn euog o dorri’r rheolau wrth drosglwyddo’r Archentwr Alejandro Faurlin i’r clwb.

Cychwynnodd y gwrandawiad yn Wembley ddoe ac fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud erbyn dydd Gwener.

Bydd QPR yn gwybod ei ffawd diwrnod cyn bod clybiau’r Bencampwriaeth yn chwarae eu gemau olaf o’r tymor arferol.

Mae Mark Palios yn credu ei fod yn bosib y bydd QPR yn colli digon o bwyntiau i ddisgyn allan o safle’r ddau uchaf a cholli’r cyfle am ddyrchafiad awtomatig.

“Rwy’n credu bod angen dangos nad yw hyn yn dderbyniol ar ôl beth ddigwyddodd gyda Tevez,” meddai Mark Palios.

Ychwanegodd y gallai cosb QPR fod yn fwy na deg pwynt.

Pe bai hynny’n digwydd fe allai naill ai Caerdydd neu Abertawe godi i’r ail safle hollbwysig a chael dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.