Mae dathlu mawr ar gae Ffordd Farrar lle mae Bangor wedi ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf ers 1995.

Mewn gêm llawn cyffro, llwyddodd Bangor i guro’r Seintiau Newydd 1-0 ar ôl gôl gan Craig Garside wedi 68 munud o’r gêm.

Roedd y tyndra’n cynyddu’n barhaus at ddiwedd y gêm, yn enwedig yn y pum munud o amser ychwanegol, gan nad oedd ond rhaid i’r Seintiau Newydd unioni’n sgôr er mwyn ennill y bencampwriaeth.

Roedd y Seintiau, pencampwyr 2010 eisoes un pwynt ar y blaen i Fangor yn y Gynghrair.

Mae’r gêm wedi bod yn ddiweddglo cofiadwy i dymor dramatig i Fangor, a oedd wedi llithro i lawr ar ôl arwain y gynghrair o 14 pwynt yn gynharach yn y tymor. Dim ond ddydd Llun y llwyddon nhw i ailgynnau eu gobaith am y bencampwriaeth ar ôl curo Castell Nedd.

“Mae’r hogiau’n haeddu pob clod am eu hymdrechion trwy’r tymor,” meddai’r rheolwr Neville Powell ar ôl y gêm.

“Dyma uchafbwynt fy ngyrfa – mae’n freuddwyd sydd wedi dod yn wir.”