Gareth Bale
Mae un o gyn-chwaraewyr a rheolwyr Tottenham, Glenn Hoddle wedi dweud y dylai Gareth Bale aros gyda Spurs y tymor nesaf.

Fe gafodd y Cymro ei enwi’r Chwaraewr y Flwyddyn dros y penwythnos ac mae ei gampau ar y cae chwarae wedi denu diddordeb rhai o brif glybiau Ewrop, gan gynnwys Barcelona a Real Madrid.

Cyfaddefodd Hoddle y byddai Bale yn gweddu i steil chwarae Barcelona, ond mae’n credu y dylai Bale aros gyda chlwb White Hart Lane a datblygu ei yrfa ymhellach.

“Gareth Bale yw’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf yn ystod y tymor yma.  Roedd o wedi ei chael hi’n anodd pan ymunodd gyda Spurs. Ond ers magu rywfaint o hyder mae wedi trawsnewid yn llwyr,” meddai Glenn Hoddle.

“Fe fyddai Gareth yn arf pwerus yn nwylo Barcelona. Mae Barcelona yn defnyddio eu cefnwyr fel asgellwyr ac fe fyddai Gareth yn chwaraewr delfrydol iddyn nhw.

“Ond mae newydd arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham ac fe fyddai’n gamgymeriad iddo adael y clwb nawr.

“Pe bai’n penderfynu symud ymlaen fe ddylai aros dwy dair blynedd arall er mwyn aeddfedu a dysgu ychydig mwy am y gêm.

“Mae’n wych ei fod yn mwynhau llwyddiant nawr, ond fe fydd yna gyfnodau hesb fel y digwyddodd iddo ychydig flynyddoedd yn ôl. Rydych chi’n dysgu rhagor am eich hunain pan nad ydi pethau’n mynd cystal.

“Ond os bydd o’n dal ati i wella, fe fydd yn siŵr o symud i glwb fel Barcelona ryw ddydd.”