Fe fydd cefnogwyr Wrecsam yn cyfarfod heno i drafod ffyrdd i helpu’r clwb wrth i’r Dreigiau wynebu gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben. 

Mae’r adran Cyllid a Thollau wedi gwneud y cais yn erbyn y clwb gan fod dyledion trethi o £200,000 heb eu talu. 

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi dweud eu bod nhw’n bryderus ynglŷn â’r gorchymyn ond eu bod nhw’n cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion i geisio dod o hyd i ateb er mwyn “sicrhau dyfodol hir dymor” y clwb. 

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghlwb Wrexham Lager heno am 7.30pm lle bydd cynrychiolwyr yr ymddiriedolaeth yn diweddaru aelodau ynglŷn â’u hymdrechion i brynu’r clwb. 

Fe fydd yr ymddiriedolaeth yn gofyn i gefnogwyr bleidleisio ar gynnig i newid rheol yn eu cyfansoddiad a fydd yn eu galluogi i drefnu cyfarfodydd o fewn wythnos yn hytrach na 14 diwrnod.  Bwriad hynny yw rhoi modd iddynt ymateb yn gyflymach i ddatblygiadau. 

Mae’r ymddiriedolaeth wedi galw ar gefnogwyr i barhau i ddangos eu cefnogaeth i Dean Saunders a’i dîm wrth iddynt geisio sicrhau dyrchafiad nôl i gynghrair pêl droed Lloegr.