Dywed rheolwr Stoke, Tony Pulis ei fod yn fwy penderfynol fyth o fuddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan yr FA oherwydd mai Man City fydd eu gwrthwynebwyr yn Wembley.

Y Cymro oedd wrth y llyw gyda Gillingham pan gollwyd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran yn erbyn Man City yn 1999.

Y fuddugoliaeth 5-0 yn erbyn Bolton ddoe oedd y tro cyntaf i Tony Pulis ddychwelyd i Wembley ers y siom gyda Gillingham.

“Rwy’n credu bydd wynebu Man City yn golygu mwy. Doedden ni ddim yn haeddu colli’r diwrnod yna,” meddai Pulis.

“Ond roedd y profiad yna wedi fy nghryfhau. Rydych chi’n gallu cymryd pethau allan o golledion yn yr un modd ag o fuddugoliaethau.”

Mae Tony Pulis yn gobeithio bod llwyddiant Stoke yn y gystadleuaeth yn helpu diweddu’r feirniadaeth y mae’r clwb wedi ei gael dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae ‘na wastad stigma wedi bod yn ein herbyn,” meddai. “Roedd un cwmni betio wedi talu allan i bobl oedd yn credu y bydden ni’n disgyn allan o’r Uwch Gynghrair ar ôl i ni golli ein gêm agoriadol o’r tymor!

 “Ry’n ni wedi cael ein beirniadu a chael ein tynnu lawr. Dw i ddim yn siŵr os bydd hynny’n newid ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Bolton.

“Ond mae’r tîm wedi newid llawer o’r un a ddechreuodd yn yr Uwch Gynghrair ddwy flynedd a hanner yn ôl – erbyn hyn mae gennym ni’r chwaraewyr sy’n gallu achosi problemau i’r gwrthwynebwyr.”