Fe fydd rhaid i dîm pêl-droed Abertawe gyflawni rhywbeth nad ydyn nhw wedi’i gyflawni ers pum tymor os ydyn nhw am gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Carabao y tymor hwn.

Man U yw eu gwrthwynebwyr yn Stadiwm Liberty heno (7.45pm) wrth iddyn nhw geisio cyrraedd wyth olaf Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf ers iddyn nhw fynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth drwy guro Bradford o 5-0 yn 2012-13.

Ar ôl colli o 2-1 gartref yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn, maen nhw’n wynebu tîm Jose Mourinho a gollodd oddi cartref o 2-1 yn erbyn Huddersfield ar yr un diwrnod.

Ond mae sylwadau rheolwr y Saeson na ddylai timau mwya’r gynghrair orfod chwarae yn y gystadleuaeth yn awgrymu na fydd tîm cryfaf Man U yn teithio i dde Cymru.

Serch hynny, mae prif hyfforddwr yr Elyrch, Paul Clement wedi dweud wrth ei dîm am ddisgwyl i’w gwrthwynebwyr fod ar eu gorau heno.

Dywedodd Paul Clement: “Fe fydd eu tîm nhw’n gryf. Dydyn nhw ddim yn gallu gwneud llawer o newidiadau oherwydd bod ganddyn nhw anafiadau.

“Ry’n ni’n gwybod pwy sy’n ffit, fwy neu lai. Os ydyn nhw ar y cae, fe fyddan nhw’n dda.

“Pan aethon ni i mewn i’r gêm yn erbyn Caerlŷr, fe ddywedais i fod rhaid disgwyl y tîm gorau oherwydd os nad ydych chi’n gwneud hynny, dydych chi ddim wedi paratoi.

“Pan fydd Man U yn dod, rhaid i ni ddisgwyl tîm da oherwydd fe fyddwn ni’n agored i niwed fel arall.”

Anafiadau

Mae Paul Clement wedi cadarnhau na fydd yr ymosodwr Wilfried Bony ar gael oherwydd salwch, ond mae disgwyl iddo fe ddychwelyd ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Arsenal dros y penwythnos.

Serch hynny, mae’r prif hyfforddwr yn fodlon fod ganddo fe ddigon o opsiynau ym mlaen y cae, er gwaetha’r diffyg goliau y tymor hwn.

“Fe fydd yna newidiadau, ac mae rhai chwaraewyr yn haeddu cyfle, felly mae hwn yn amser da i wneud hynny. Dw i ddim yn mynd i ddatgelu’r tîm na’r system ar hyn o bryd.” 

Ychwanegodd fod yr adborth mae e wedi ei roi i’r chwaraewyr ar ôl dydd Sadwrn yn “deg ac onest”.

Mae’r chwaraewr canol cae Renato Sanches, sydd ar fenthyg o Bayern Munich, wedi anafu ei goes yn dilyn ei anawsterau diweddar i brofi ei ffitrwydd, ac fe allai fod allan ar gyfer y ddwy gêm nesaf.

Chwarae gartref

Ar eu tomen eu hunain y tymor hwn, dim ond un fuddugoliaeth allan o bump o gemau gafodd yr Elyrch hyd yn hyn.

Yn ôl Paul Clement, “diffyg hyder a’r natur ddynol” sy’n bennaf gyfrifol am y canlyniadau.

“Allwch chi ddim rheoli popeth,” meddai. “Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae diffyg hyder gyda ni gartref. Dw i ddim y rhoi’r bai ar y cefnogwyr am hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw e ac fe ddywedais i wrth [y chwaraewyr] mai dim ond ni all sortio hynny.

“Pan fyddwn ni’n perfformio ar ein gorau, bydd y dorf yn fwy cyffrous am yr hyn maen nhw’n ei weld.”

Y gwrthwynebwyr

Mae amheuon am ffitrwydd Marcos Rojo ond fe allai’r ymwelwyr alw ar wasanaethau Victor Lindelöf, Chris Smalling neu Danny Blind yn y cefn.

Ond mae ansicrwydd ynghylch canol y cae, yn ôl Paul Clement.

“O ran canol y cae, dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd wrth ochr [Ander] Herrera. A fydd [Nemanja] Matic yn chwarae? Neu fe allen nhw roi [Danny] Blind yno. Dydyn ni ddim yn gwybod, ond mae’r chwaraewyr dw i wedi’u henwi’n chwaraewyr o’r radd flaenaf.” 

Mae Jose Mourinho wedi amddiffyn agwedd ei dîm yn dilyn beirniadaeth gan nifer o’r chwaraewyr ar ôl y golled yn erbyn Huddersfield.

Y cyfarfod diwethaf

Y tro diwethaf i Man U ddod i dde Cymru, ar Awst 19, aethon nhw adref â’r triphwynt ar ôl curo’r Elyrch o 4-0.

Wrth egluro’r golled honno, dywedodd Paul Clement fod ei dîm wedi bod yn euog o fod yn rhy ymosodol, gan esgeuluso’r ddyletswydd i amddiffyn yn gadarn.

“Unwaith wnaethon ni agor i fyny, fe wnaethon nhw redeg drwyddon ni a sgorio tair gôl hwyr. Roedd y canlyniad yn grasfa yn y pen draw, a rhaid i ni gadw pethau’n dynn a gosod sylfaen amddiffynnol.”