Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi rhybuddio y bydd Caerlŷr yn beryglus heb reolwr yn dilyn diswyddo Craig Shakespeare ddechrau’r wythnos.

Maen nhw’n teithio i Stadiwm Liberty heddiw (3 o’r gloch) gyda Michael Appleton wrth y llyw dros dro.

Daeth teyrnasiad Craig Shakespeare i ben ar ôl wyth mis yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn West Brom nos Lun.

Maen nhw heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr erbyn hyn, sy’n eu gosod nhw yn y safleoedd disgyn.

Ond fe allai hynny weithio yn erbyn Abertawe, yn ôl Paul Clement.

“Mae elfen ddieithr i’r cyfan nawr – beth fydd ymateb eu chwaraewyr nhw?

“Rhaid i ni fod yn barod iddyn nhw dalu’r pwyth yn ôl a gwyrdroi eu perfformiadau diweddar.

“Rhaid i chi fod yn barod ar gyfer tîm sy’n dod allan a chwarae’n dda iawn, rhaid i chi ddisgwyl gweld eich gwrthwynebwyr ar eu gorau.

“Ond ry’n ni wedi paratoi’n dda iawn ac ry’n ni’n barod ac yn canolbwyntio.”

Craig Shakespeare

Ar ôl bod yn rheolwr dros dro yn dilyn diswyddo Claudio Ranieri ym mis Chwefror, cafodd Craig Shakespeare ei benodi’n barhaol.

Fe oedd y trydydd rheolwr yn hanes yr Uwch Gynghrair i ennill ei bum gêm gyntaf wrth y llyw.

Derbyniodd e gytundeb tair blynedd newydd dros yr haf ar ôl llwyddo i gadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair flwyddyn yn unig ar ôl iddyn nhw gael eu coroni’n bencampwyr o dan Claudio Ranieri, ac yntau’n is-reolwr.

Ac mae Paul Clement wedi cydymdeimlo â fe yn dilyn ei ddiswyddo.

“Mae’n drist oherwydd ar ôl wyth gêm, mae e’n cael ei farnu ar y canlyniadau ac maen nhw wedi penderfynu ei waredu.

“Gwnaeth Craig yn arbennig o dda yn ei swydd, nid yn unig fel rheolwr ond fel is-reolwr a gwneud gwaith gwych yn y cefndir i helpu’r tîm hwnnw i ddod yn bencampwyr.

“Roedd e wedi haeddu dod yn rheolwr, ond ry’n ni i gyd yn gwybod y pwysau ry’n ni’n ei wynebu o un wythnos i’r llall.”

Michael Appleton v Abertawe

Mae Michael Appleton wedi sicrhau un fuddugoliaeth dros yr Elyrch yn ystod ei yrfa, ac yntau’n rheolwr ar Rydychen ar y pryd.

Gêm gwpan oedd honno pan oedd Rhydychen yn yr Ail Adran, ac fe guron nhw’r Elyrch o 3-2 yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr fis Ionawr y llynedd.

Ond y tro hwn, bydd ei dîm yn wynebu tîm Abertawe oedd wedi sicrhau buddugoliaeth o 2-0 dros Huddersfield – eu hail fuddugoliaeth yn y gynghrair – i’w codi nhw allan o’r safleoedd disgyn.