Mae amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Alfie Mawson ymhlith y chwaraewyr cyntaf o Uwch Gynghrair Lloegr i gyfrannu at elusen newydd sy’n hybu elusennau pêl-droed ledled y byd.

Mae e wedi addo rhoi o leiaf 1% o’i gyflog i’r elusen, sydd hefyd yn cael cefnogaeth gan Charlie Daniels (Bournemouth).

Cafodd ei sefydlu ym mis Awst, ac mae’n cael ei redeg gan y cwmni Almaenig streetfootballworld, sy’n buddsoddi mewn mwy na 120 o elusennau mewn 80 o wledydd.

Dywedodd Juan Mata ei bod yn “wych” fod Alfie Mawson a Charlie Daniels yn cefnogi’r elusen.

“Mae ddau yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac mae eu hymroddiad yn gam gwych yn esblygiad Common Goal.”

Roedd Alfie Mawson yn aelod o garfan Lloegr ar gyfer Pencampwriaethau dan 21 Ewrop.

Dywedodd: “Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl ro’n i’n chwarae y tu allan i’r Gynghrair ac yn helpu fy nhad ar benwythnosau gyda’i stondin yn y farchnad.

“Dw i nawr mewn lle gwych ac eisiau canolbwyntio 100% ar bêl-droed.

“Dw i ddim eisiau ffwdan, ond mae Common Goal yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy ngyrfa wrth fod yn rhan o rywbeth all helpu i drawsnewid bywydau pobol sy’n llai ffodus. Mae’n beth da i bêl-droed.”