Neville Powell (Llun gan Richard Birch)
Mae Aberystwyth wedi ennill ei gêm  gyntaf o’r tymor ddydd Sadwrn diwethaf ac mae’r cefnogwr Adam Bitchell yn gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi hwb i’r clwb am weddill y tymor.

Yn wreiddiol o Aber, fe wnaeth Adam Bitchell gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow 2014, ond pe bai Aber un diwrnod yn ennill Uwchgynghrair Cymru a chael rhediad yn Ewrop bydd bron mor falch.

“Gyda Neville Powell yn ymuno â’r clwb roeddwn yn obeithiol am dymor gwell, roedd y pum gêm gyntaf yn siom, ond arwyddo Ryan Wade wnaeth ddechrau troi pethe yn fy marn i, mae’n chwaraewr o safon, a gyda fo a Luke Borrelli yn ymosodwyr rydan ni’n edrych yn beryg.

“Roedd y gêm yn erbyn Bangor yn drobwynt, naethon nhw chwarae’n dda, ac roedd yn greulon i golli fel gwnaethom ni yn ildio dwy gôl hwyr, blerwch, ond roedd rhywbeth wedi newid yn agwedd y chwaraewyr. Cawsom gêm gyfartal wedyn yn Y Bala, byth yn lle hawdd i fynd, ac wedyn gêm gyfartal adref yn erbyn  Y Barri, roedd sylfaen i’w weld yn y tîm.”

Gan ei fod yn gweithio a byw yng Nghaerdydd erbyn hyn,  mae Adam Bitchell yn teithio i Aber i fynychu’r gemau gartref a’r rheiny yn y Gogledd.

Tipyn o ddathlu

“Roedd tua 30 o gefnogwyr wedi teithio i Landudno dydd Sadwrn, ac roedden yn colli gyda deg munud i fynd, sgoriodd dwy gôl hwyr i ennill 2-3, roedd dipyn o ddathlu yn y clwb ar ôl y gêm ac ar y daith adref. Mae’n debyg bod ysbryd yn y tîm rŵan, ac mae’n wych i weld Matty Jones, yr hogyn lleol, yn cael ei gyfle,” meddai.

Fel un o glybiau gwreiddiol y Gynghrair, mae Aber i raddau wedi tangyflawni dros y blynyddoedd ond mae Adam Bitchell yn optimistaidd am y dyfodol: “Gyda Nev wrth y llyw, rwy’n obeithiol. Mae ganddo lawer o brofiad, mae bob dim yn ei le yn y clwb, stadiwm, cae 3G, academi dda iawn a photensial i ddenu torfeydd da.

“Yn amlwg, gorffen yn y chweched uchaf ydy’r nod a thymor nesaf sa’n dda gweld ni yn cystadlu am y gynghrair. Roedd yr ymgyrch diwethaf yn Ewrop yn siom, cfelly gobeithio cawn amser gwell pan ddaw.

“Bydd nos Wener yn erbyn y Seintiau yn brawf arall, ond gobeithio o’r diwedd bod y clwb ma’ ar y trywydd iawn.”

Gêm nesaf Aberystwyth yw’r  Seintiau Newydd gartref nos Wener, cic gyntaf am 8yh.