Rob Page, rheolwr tim dan-21 Cymru (Llun: Northampton Town FC)
Mae angen amynedd ar dîm dan 21 Cymru wrth iddyn nhw herio Liechtenstein nos Iau, yn ôl eu rheolwr Rob Page.

Dechreuodd ymgyrch Cymru i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop fis diwethaf gyda buddugoliaeth o 3-0 dros y Swistir cyn colli oddi cartref o 2-0 yn erbyn Portiwgal.

Mae Liechtenstein wedi ildio wyth gôl heb sgorio’r un yn eu gemau cychwynnol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Rwmania.

“Dyw Liechtenstein ddim wedi cael y dechrau gorau ond allwch chi ddim cymryd unrhyw beth yn ganiataol ar y lefel yma,” meddai Rob Page. 

“Allen ni ddim bod wedi gofyn am ddechrau mwy anodd gyda dwy gêm oddi cartref yn erbyn y ddau ddetholyn gorau.

“Mae hwn yn brawf gwahanol i’r ddau gawson ni hyd yn hyn ac mae’n bosib y bydd angen i ni fod yn amyneddgar wrth adeiladu’r chwarae.

“Ond mae gyda ni’r chwaraewyr i roi loes i bobol ar y lefel yma nawr.”

 Ond fe fydd rhaid iddyn nhw chwarae heb yr ymosodwr David Brooks, un o’u sgorwyr, ar ôl iddo fe ymuno â charfan Cymru.

 Mae Rabbi Matondo wedi cael ei gynnwys yn y garfan dan 21 am y tro cyntaf.