West Ham 1–0 Abertawe
Dychwelodd Abertawe o Stadiwm Llundain yn waglaw brynhawn Sadwrn wedi i gôl hwyr Diafra Sakho ennill y gêm i’r tîm cartref yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Abertawe a gafodd y gorau o hanner cyntaf digon di fflach ond ar wahân i gynnig Wilfried Bony o bellter a gafodd ei arbed gan Joe Hart, wnaethon nhw ddim creu llawer o flaen gôl.
Doedd West Ham fawr gwell wedi’r egwyl ac roedd y dorf gartref yn ddigon parod i arddangos eu hanfodlonrwydd.
Ond gyda’r gêm yn anelu am gêm gyfartal fe gipiodd yr eilydd, Sakho, y pwyntiau i gyd i’r Hammers wrth wyro croesiad Arthur Masuaku i gefn y rhwyd.
Mae’r canlyniad yn codi West Ham dros Abertawe yn tabl wrth i’r Elyrch lithro i dri isaf yr Uwch Gynghrair.
.
West Ham
Tîm: Hart, Zabaleta, Fonte, Reid, Cresswell, Antonio, Noble (Lanzini 62’), Kouyate, A.Ayew (Masuaku 78’), A. Carroll, Hernandez (Sakho 78’)
Gôl: Sakho 90’
Cardiau Melyn: Kouyate 55’, Carroll 55’, Sakho 90’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson (Clucas 87’), Renato Sanches, Britton (Messa 69’), T. Carroll, J. Ayew, Bony (Fer 45’), Abraham
Cardiau Melyn: Renato Sanches 30’, Britton 49’,
.
Torf: 56,922