Caerdydd 3–1 Leeds        
                                                                  

Cododd Caerdydd i frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros ddeg dyn Leeds yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Roedd yr Adar Gleision eisoes ddwy gôl ar y blaen cyn i gapten yr ymwelwyr, Liam Cooper, gael ei anfon oddi ar y cae. Roedd trydedd gôl i ddilyn yn yr ail hanner cyn i Leeds dynnu un yn ôl.

Dechreuodd Caerdydd ar dân ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda gôl Kenneth Zohore ddeunaw munud cyn yr egwyl.

Dyblodd Junior Hoilett y fantais gyda ergyd wych o bellter ddeg munud yn ddiweddarach ac roedd y tîm cartref yn gyfforddus.

Gwnaeth Cooper eu tasg yn un haws trwy dderbyn ei ail gerdyn melyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac roedd y tri phwynt yn ddiogel toc cyn yr awr wedi i Zohore rwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm.

Sgoriodd Kemar Roofe gôl gysur i Leeds wedi hynny ond noson Caerdydd oedd hi wrth iddynt neidio dros eu gwrthwynebwyr i frig y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Morison, Ecuele Manga, Bamba (Halford 90+2’), Peltier, Damour, Bryson, Bennett, Mendez-Laing (Feeney 85’), Hoilett, Zohore (Ward 76’)

Goliau: Zohore 28’, 59’, Hoilett 37’

.

Leeds

Tîm: Wiedwald, Ayling, Jansson, Cooper, Berardi, Klich (Vieira 67’), Phillips, Alioski (Grot 67’), Hernandez (Pennington 45’), Dallas

Gôl: Roofe 67’

Cardiau Melyn: Cooper 39’, 45+3’, Phillips 23’

Cerdyn Coch: Cooper 45+3’

.

Torf: 27,160