Gemau di-sgôr gafodd Wrecsam a Chasnewydd heddiw.

Roedd Wrecsam oddi cartref yn Torquay yn y Gynghrair Genedlaethol, tra bod Casnewydd yn croesawu Wycombe i Rodney Parade yn yr Ail Adran.

Casnewydd

Daeth cyfle i Padraig Amond sgorio i Casnewydd cyn i Joe Day gael cyfle i Wycombe.

Ond diwrnod i’r ddau golwr, Joe Day a Scott Brown oedd hi.

Roedd Joe Day wedi creu argraff ar yr hanner awr, wrth arbed cynnig gan Luke O’Nien.

Daeth sawl cyfle hwyr i’r Saeson, ond roedd y golwr yn barod amdanyn nhw i gyd, wrth i Josh Umerah, Craig Mackail-Smith ac Anthony Stewart fethu cyfleoedd i sicrhau’r triphwynt wrth i’r amddiffyn aros yn gadarn.

Wrecsam

Prin iawn oedd y cyfleoedd i’r naill dîm na’r llall yn Plainmoor, wrth i’r Saeson anelu am eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn o dan y rheolwr dros dro Robbie Herrera.

Doedd dim cyfleoedd o flaen y naill gôl na’r llall yn yr hanner cyntaf.

Roedd arbediad gwych gan Christian Dibble yn yr ail hanner wedi rhwystro Luke Young, wrth i’w gic rydd gael ei gwthio dros y trawst.

Ond roedd Vincent Dorel yn drech na Wrecsam wrth i nifer o ergydion gael eu hanelu at y gôl.

Mae gan Wrecsam 16 o bwyntiau yn y trydydd safle, yr un nifer o bwyntiau â Dagenham & Redbridge, Leyton Orient a Sutton United.

Mae’r tri un pwynt y tu ôl i Dover Athletic, sydd ar y brig.