Wilfried Bony (Richard Mulder CCA 3.0)
Fe gafodd Clwb Pêl-droed Abertawe gryn dipyn o sylw ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo wrth iddyn nhw groesawu Wilfried Bony yn ôl, a llwyddo i ddenu seren ifanc Ewro 2016, Renato Sanches, ar fenthyg o Bayern Munich.

Mae’r llwyddiant hwnnw wedi tynnu sylw oddi ar y ffaith fod prif sgoriwr y llynedd, Fernando Llorente, yn dilyn y chwaraewr gorau, Gylfi Sigurdsson, allan o’r clwb.

Yn ôl arbenigwyr a chefnogwyr sydd wedi ymateb hyd yma, yr Elyrch gafodd un o’r ffenestri trosglwyddo gorau.

Mae’r clwb hefyd wedi arwyddo’r golwr ifanc Steven Benda o 1860 Munich, ac fe fydd e’n ymuno â’r garfan dan 23.

Bony’n ôl

Roedd disgwyl mawr drwy gydol y ffenest drosglwyddo y byddai cyn-ymosodwr yr Elyrch, Wilfried Bony yn dychwelyd o Manchester City.

Fe adawodd dde Cymru am ogledd Lloegr yn 2015 ond ar ôl treulio cyfnod siomedig ar fenthyg yn Stoke, fe fydd e’n dychwelyd i’r clwb lle sgoriodd e 26 gôl mewn 54 gêm rhwng 2013 a 2015.

Mae lle i gredu bod yr Elyrch wedi talu oddeutu £13 miliwn am y chwaraewr a gafodd ei werthu am £28 miliwn, a’i fod e wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd gydag opsiwn i’w ymestyn am flwyddyn ychwanegol.

Ta-ta Fernando

Daeth cadarnhad o’r newyddion y mae gohebwyr wedi bod yn ei ddisgwyl ers tro, sef bod y Sbaenwr Fernando Llorente wedi gadael Abertawe am Lundain.

Ond yn hytrach na mynd i Chelsea, fe lwyddodd Spurs i’w ddenu ar yr unfed awr ar ddeg.

Serch hynny, mae disgwyl iddo fe dreulio cyfnodau helaeth o’r tymor ar y fainc yn ail ddewis i Harry Kane.

Drama fawr

Roedd hi’n noson hir wrth i ddrama’r ymosodwyr fynd rhagddi.

Ar ôl colli Gylfi Sigurdsson i Everton am £45 miliwn yn ystod y ffenest drosglwyddo, roedd yr Elyrch yn awyddus i sicrhau bod ganddyn nhw ymosodwr yn ei le cyn i Fernando Llorente adael.

Roedd y trafodaethau rhwng Fernando Llorente a Spurs, a Wilfried Bony ac Abertawe yn cael eu cynnal ar yr un pryd.

Ond fe ddaeth cadarnhad yn ystod y noson – drwy wefannau cymdeithasol brawd ac asiant Fernando Llorente – fod y Sbaenewr wedi cytuno i symud i Spurs, a hynny cyn bod Wilfried Bony wedi pasio’i brawf meddygol yn Abertawe.

Sanches – sioc y dydd

Sioc y dydd i lawer, fodd bynnag, oedd y newyddion bod y chwaraewr canol cae Renato Sanches wedi arwyddo ar fenthyg o Bayern Munich.

Roedd e’n aelod blaenllaw o garfan Portiwgal wrth iddyn nhw godi cwpan Ewro 2016 ar ôl trechu Cymru yn y rownd gyn-derfynol, ac fe gafodd ei enwi’n seren ifanc y gystadleuaeth.

Ychydig cyn y gystadleuaeth, fe symudodd e o Benfica i Bayern Munich am 35 miliwn ewro, ond dim ond 26 o gemau chwaraeodd e’r tymor diwethaf.

Roedd yr Almaenwyr yn awyddus i gael mynd ar fenthyg er mwyn cael mwy o amser ar y cae, ac fe ddefnyddiod prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement ei gysylltiadau gyda’r clwb, fel cyn-hyfforddwr, i ddenu’r chwaraewr i Gymru.

‘Chwaraewr deinamig’

Roedd adroddiadau yn ystod yr haf fod Renato Sanches wedi ennyn diddordeb Man U, Chelsea, Lerpwl, Juventus a Monaco.

Ond roedd Bayern Munich yn anfodlon ei werthu’n barhaol, ac mae lle i gredu bod Abertawe wedi talu oddeutu £8 miliwn yn rhan o’r trosglwyddiad dros dro.

Dywedodd Paul Clement ei fod e “wrth ei fodd” o fod wedi arwyddo Renato Sanches, “chwaraewr canol cae deinamig a phwerus sydd â’r holl nodweddion angenrheidiol, dw i’n credu, i fod yn addas ar gyfer yr Uwch Gynghrair.”

Diwrnod prysur – trosglwyddiadau Abertawe

Mewn:

Wilfried Bony (Man City)

Renato Sanches (Bayern Munich) – ar fenthyg

Steven Benda (1860 Munich)

Mas:

Fernando Llorente (Spurs)

Oli McBurnie (Barnsley, ar fenthyg)

Mark Birighitti (NAC Breda)

Botti Biabi (Hamilton, ar fenthyg)