Fe fydd Gareth Bale yn dychwelyd i dîm pêl-droed Cymru ar gyfer gemau nesaf ymgyrch Cwpan y Byd 2018 y crysau cochion yn erbyn Awstria a Moldofa.

Fe wnaeth y chwaraewr golli’r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Serbia ym mis Mehefin ar ôl cael ei wahardd am un gêm.

Ond er hyn, fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw y bydd Joe Allen a Neil Taylor yn colli’r gêm gartref yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd ar 2 Medi oherwydd gwaharddiadau.

Ond fe fydd y ddau ar gael i chwarae yn y gêm ym Moldofa dridiau’n ddiweddarach.

“Mae’n braf cael Gareth yn ôl a hefyd Neil Taylor ar gyfer gêm Moldofa,” meddai rheolwr y tîm, Chris Coleman.

“A yw’n 100 y cant lle gallai fod [Gareth Bale]? Cawn weld lle mae e pan fyddwn yn ei gael e. Ond er tegwch i rai o’r criw a aeth i Serbia, roedd y tîm yn gwbwl ardderchog.”

Bydd wyneb newydd yn ymuno â’r tîm hefyd, y pêl droediwr 16 oed, Ethan Ampadu, sydd newydd symud i chwarae i Chelsea.

Bydd y ddau gêm nesaf yn allweddol i obeithion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia y flwyddyn nesa’.

Y rhestr lawn

Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr: Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Jazz Richards, James Collins, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu.

Canolwyr: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Lee Evans, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Jonathan Williams.

Blaenwyr: Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn.