Mae tîm pêl-droed Casnewydd yn teithio i Crewe ar ôl dechrau’r tymor gyda gêm gyfartal yn Stevenage yr wythnos ddiwethaf.
Gêm gartref oedd hon i fod, ond mae gwaith adnewyddu cae Rodney Parade yn golygu bod gemau cynta’r tymor wedi cael eu symud.
Cael a chael fydd hi i’r amddiffynnwr Scot Bennett, sy’n brwydro i fod yn holliach ar ôl anafu ei ffêr.
Mae Ben Tozer yn parhau i wella o anaf i’w ben-glin, ac mae Marlon Jackson allan ag anaf i linyn y gâr.
Ond fe fydd Reece Cole, chwaraewr canol cae 19 oed, yn chwarae i’r Alltudion am y tro cyntaf ar ôl symud ar fenthyg o Brentford ddydd Iau.
Does dim newid yn nhîm Crewe ar ôl iddyn nhw guro Bolton yn y gwpan yr wythnos hon.
Mae George Ray a James Jones wedi’u hanafu o hyd.