Gyda’r siom o ddisgyn o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf yn dal yn fyw yn y cof, mae clwb pêl-droed Y Rhyl yn bwriadu adennill eu lle yn syth.

Mae eu rheolwr ifanc, Niall Mcguinness, yn haeddu’r cyfle o geisio eu cael nhw’n ôl i “lle maen nhw i fod”, meddai Rheolwr Gyfarwyddwr y clwb, Mike Jones.

“Rwy’n sicr mai ni a Bangor ydi clybiau mwyaf y gogledd,” meddai wrth golwg360, “ac yn sicr, ein lle nid ydi’r Uwch Gynghrair.

“Mae’r stadiwm,  y cae, y cefnogwyr  a’r hanes ganddon ni. Ennill y Cymru Alliance ydi’r peth lleia’ fedrwn ni wneud y tymor yma – mae ar yr Uwch Gynghrair ein hangen ni.

“Fel cefnogwr o’r clwb a’r  tîm cenedlaethol, does dim byd gwell na gweld eich gwlad yn llwyddo’n Ewrop,” meddai wedyn. “Ond, pan mae’r clwb yn Ewrop, mae’r sylw mae’r tîm yn ei gael yn anhygoel.

“Felly, y nod ydi ennill dyrchafiad a cheisio mynd drwoddi Ewrop.”

“Pres sy’n siarad”

“Y ffaith ydi, ac mae’n wir, pres sy’n siarad y dyddiau yma,” meddai Mike Jones wedyn. “Mae Rhyl yn cael eu rhedeg yn gywir, ac mi oedd y clwb wedi gwneud elw y tymor diwethaf.

“Rydan ni’n derbyn y bydd hi’n anodd i ni ar y cae y tymor yma – mae hon yn gynghrair dda a chaled.

“Mae nifer o glybiau â phosibilrwydd o ddyrchafiad, sef y rhai mai clybiau eraill wedi’u crybwyll, Caernarfon, Porthmadog, Treffynnon, Airbus… ond, peidiwch ac anghofio am Fflint, mae ganddyn nhw reolwr profiadol a chefndir da yn Andy Holden, cyn hyfforddwr  Everton a Hibernian.”

Mae Rhyl yn dechrau ymgyrch yn y Cymru Alliance adre i Gegidfa prynhawn dydd Sadwrn.