Gallai tri o chwaraewyr newydd Wrecsam wynebu eu hen glwb wrth iddyn nhw groesawu Macclesfield i’r Cae Ras ar ddiwrnod cynta’r tymor pêl-droed newydd (3 o’r gloch).

Mae’n bosib y bydd y chwaraewr canol cae Sam Wedgebury, a’r ymosodwyr Chris Holroyd a Scott Boden ddechrau’r gêm.

Ac mae disgwyl i’r asgellwr Jack Mackreth a’r ymosodwr Ntumba Massanka fod yn y tîm ar ôl gwella o anafiadau.

Ond mae amheuon am ffitrwydd yr amddiffynnwr Shaun Pearson.

Yng ngharfan Macclesfield mae cyn-ymosodwr Wrecsam Elliott Durrell a golwr tîm dan 21 Cymru, Billy O’Brien sydd wedi ymuno â nhw ar ôl cael ei ryddhau gan Manchester City.