Mae gemau’r Bencampwriaeth yn eu holau y penwythnos hwn, ac mae’r Adar Gleision yn dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn Burton.

Gyda thrafferthion ar ac oddi ar y cae yn y brifddinas dros y blynyddoedd, mae sefydlogrwydd rŵan gyda Neil Warnock wrth y llyw.

Mae Elin Thomas, sy’n stiward yn y stadiwm yn hapus â’r paratoadau dechrau tymor:

“Heb os, mae apwyntiad Warnock wedi bod yn benderfyniad doeth. Mae nifer wedi’u feirniadu dros y blynyddoedd ond mae wedi uno’r cefnogwyr a’r clwb.

“Roedd wedi dechrau cael perthynas á’r cefnogwyr at ddiwedd tymor diwethaf, ond mae’r chwaraewr yn cymysgu á’r cefnogwyr rŵan, mae’r clwb i weld yn trio eto,” meddai.

“Ac roedd wedi bod yn Cernyw gyda sesiynau ymarfer yn agored i bawb ac roedd wedi helpu Taffs  Well yn chwarae gem gyfeillgar yno. Ar y cae dwi falch bod nhw wedi perswadio Bruno Manga i aros, mae’n chwaraewr o safon, rwyf yn optimist gawn dymor da.”

Fe ddaeth Neil Warnock i mewn y tymor diwethaf yn lle Paul Trollope. Ar ôl dechrau gwael i’r tymor, fe lwyddodd i sicrhau sefydlogrwydd, ac fe ddringodd Caerdydd y tabl a chodi gobeithion am y dyfodol gan orffen yn y 12fed safle.

Cyfnod tymhestlog

Mae wedi bod yn gyfnod tymhestlog yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda Malky Mackay yn 2013/14, ac roedd y perchennog Vincent Tan i’w weld eisiau chwalu’r clwb gan newid lliw y crysau o las i goch.

Mae ffefryn y cefnogwyr, Peter Wittingham, wedi gadel ar ôl degawd, ac fe adawodd Neil Warnock i chwaraewr rhyngwladol Cymru, Emyr Huws, symud  i Ipswich, a Rickie Lambert  i adael y clwb yn gyfan gwbwl. #

Tybed a oes le i’r hen ffefryn, Joe Ledley – sydd heb glwb ar hyn o bryd – ddod yn ôl i’r brifddinas? Yn ol pob son, maewedi gwrthod dau gynnig o Tsieina a Thwrci.

Mae Lee Camp yn mynd  i wisgo crys rhif un, arwydd mai fo bydd y brîf olwr, ac mae amddiffynwr Cymru, Jazz Richards, yn aelod o’r garfan gyda Declan John.

Ond beth sydd o flaen Declan John? Dim ond un gêm mae wedi  chwarae ers i Neil Warnock ymuno á’r clwb ac yntau yn ddim ond 22. Mae angen chwarae gemau i gael unrhyw gyfle o chwarae i’w wlad eto.

Mae gobeithion mawr  i’r chwaraewr canol cae  Lee Tomlin  o Fryste sydd wedi arwyddo ar gytundeb tair blynedd.

Chwaraewyr newydd wedi arwyddo dros yr haf

Lee Camp; Neil Etheridge; Danny Ward; Loic Damour; Lee Tomlin; Callum Paterson a Nathaniel Mendez-Laing.