Cassia Pike o Borthmadog, Llun: Cymdeithas Bel-droed Cymru
Mae Jayne Ludlow wedi cyhoeddi  ei charfan ar gyfer y gemau yn erbyn yr Iseldiroedd y penwythnos hwn.

Mae’r gemau yn cael eu chwarae fel rhan o baratoadau am rowndiau terfynol UEFA i ferched sy’n cael eu cynnal yn yr Iseldiroedd yn ddiweddarach yn y mis.

Mae dwy gêm, sef un A ddydd Sadwrn, Gorffennaf 8, gyda thîm arbrofol yn debygol o chwarae i dîm B y diwrnod canlynol.

Bydd yr Iseldiroedd yn dechrau’r ffeinals ar ddydd Llun, Gorffennaf 17 yn erbyn Norwy, un o’r timau wnaeth gymhwyso ar draul Cymru yn grŵp 8.

Mae’r gemau yn dilyn y ddwy gêm bositif i Gymru yn erbyn Portiwgal yn ddiweddar, gyda Chymru yn ennill un a cholli un.

“Braint”

Mae Cassia Pike, 16, o Borthmadog wedi’i chynnwys yn y garfan am y tro gyntaf ac mae’r  ferch, sy’n chwarae gyda Lerpwl, yn gobeithio ennill ei chap cyntaf.

“Rwyf yn falch iawn o gael fy newis yn y garfan lawn am y tro cyntaf,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n gobeithio y bydda’ i yn cael mynd ar y cae yn y gêm ddydd Sadwrn i ennill cap. Bydd yn fraint os ydw i’n cael cap cyntaf.

“Ond y peth pwysicaf ydi creu argraff ar y tîm rheoli. Rydan ni’n nabod rhai o’r chwaraewyr o’r Iseldiroedd, a dw i’n edrych ymlaen at yr her o’u wynebu nhw.

“Dw i’n gwybod bod parch mawr atyn nhw ar y lefel ryngwladol.”

Mae Cassia Pike ar lyfrau Lerpwl, ac mae wedi cynrychioli ei gwlad o dan-15, o dan-16 ac o dan-17 ac mae wedi bod gyda’r garfan o dan-19 yn ddiweddar.

Mae’n gallu chwarae fel ymosodwr neu ar unrhyw asgell.

Mae Shanice van de Sanden, sy’n chwarae ei phêl-droed gyda Natasha Harding a Sophie Ingle yn Lerpwl, yng ngharfan yr Iseldiroedd ac mae’r capten Mandy van den Berg  yn chwarae yn Reading FC gyda  Charlie Estcourt, Melissa Fletcher a Rachel Rowe.

Y garfan

CLAIRE SKINNER – Merched  ASTON VILLA

LAURA O’SULLIVAN – Merched CAERDYDD

LOREN DYKES – Merched BRYSTE

HANNAH MILES – Merched CAERDYDD

HAYLEY LADD – Merched BRYSTE

SOPHIE INGLE – Merched LERPWL

GEMMA EVANS – Merched CAERDYDD

SHAUNNA JENKINS – Merched CAERDYDD

CHLOE CHIVERS – Merched CAERDYDD

ANGHARAD JAMES – Merched Tref YEOVIL

CHLOE LLOYD – Merched CAERDYDD

BRONWEN THOMAS – BRIGHTON & HOVE ALBION FC

GEORGIA EVANS – Merched BRYSTE

NADIA LAWRENCE – Merched  Tref  YEOVIL

ALICE GRIFFITHS – Merched CYNCOED

NATASHA HARDING – Merched LERPWL

KAYLEIGH GREEN –  heb fod ynghlwm

MELISSA FLETCHER – Merched READING FC

RHIANNON ROBERTS – DONCASTER ROVERS BELLES FC

PEYTON VINCZE – OKLAHOMA FC

FFION MORGAN – Merched CAERDYDD

GWENNAN DAVIES – Merched CYNCOED

AMINA VINE – Merched BRYSTE

CASSIA PIKE – Merched LERPWL

LILY WOODHAM – Merched BRYSTE

ELISE HUGHES – Merched EVERTON

Gemau

Yr Iseldiroedd v Cymru

Sadwrn, Gorffennaf 8, 2017

16:00

Sparta Stadium, Rotterdam

Yr Iseldiroedd v Cymru (Tím B)

Dydd Sul, 9 Gorffennaf

13.00

KNVB Campus, Zeist