Mae’r asgellwr 19 oed, Daniel James wedi symud ar fenthyg o Abertawe i Amwythig ar gyfer tymor 2017-18.

Fe fydd e’n ymuno â’r garfan ar gyfer eu taith i Bortiwgal heddiw.

Symudodd e o academi Hull i dde Cymru ym mis Awst 2014, ac fe greodd e argraff fel aelod o garfan dan 23 y clwb wrth iddyn nhw ennill y gynghrair a’r gwpan y tymor diwethaf, gan sgorio naw gôl mewn 31 o gemau.

Cafodd chwaraewr dan 21 Cymru ei alw i’r garfan genedlaethol gan Chris Coleman fis diwethaf, ac roedd e ar y fainc ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Serbia.

Mae modd i’r Elyrch ei alw’n ôl ym mis Ionawr pe bai angen.