Ai Aaron fydd yr allwedd yn absenoldeb Bale?
Mae Cymru am wynebu gêm “galed ofnadwy” yn erbyn Serbia dros y penwythnos, yn ôl un sydd wedi chwarae dros Gymru ac sydd bellach yn sylwebu.

Ar nos Sul fe fydd yn Cymru yn herio Serbia yn y ras i ennill lle yng Nghwpan y Byd a fydd yn cael ei chynnal yn Rwsia’r flwyddyn nesaf.

“Mae Serbia ar frig y grŵp ar hyn o bryd ac yn dîm hyderus ofnadwy”, meddai Owain Tudur Jones.

Mae gan Serbia 11 pwynt tra bo Cymru ar saith wedi pum gêm ragbrofol, gyda phump arall yn weddill.

Ac mae Owain Tudur Jones yn credo y gallu y Cymry gau’r bwlch gyda buddugoliaeth yn Belgrade nos Sul.

“Does dim rhaid ennill,” meddai, “ond o fod mewn sefyllfa lle rydan ni bedwar pwynt y tu ôl, mi fasa ennill yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Colli Gareth Bale

Ni fydd Gareth Bale na Neil Taylor yn chwarae nos Sul, a hynny am eu bod wedi eu gwahardd..

Yn ôl Owain Tudur Jones, Aaron Ramsey yw’r “person naturiol nesaf” i gamu i’r adwy a sgorio’r gôls i Gymru.

“Os ydan ni’n mynd i ennill y gêm nos Sul, bydd yn rhaid i Aaron fod ar ei orau a dyna beth rydyn ni’n gobeithio ei weld.”

O ran y chwaraewyr ifainc, cyhoeddwyd y bore yma bod Ben Woodburn – chwaraewr Lerpwl ag iddo gryn addewid – wedi gorfod tynnu allan o’r garfan yn sgil anaf i’w goes.

Ond mae hyn yn cynnig cyfle, yn ôl Owain Tudur Jones, i aelodau ifainc eraill o’r garfan ddisgleirio, rhai fel Marley Watkins o Norwich.

“Pwy a ŵyr, mae yna wyneba newydd a ffres yn y garfan, rhywun fel Marley Watkins sydd, oherwydd anaf Wood, newydd ffeindio’i hun yn ôl yn y garfan.”

Bydd y gêm yn cyhwyn am 7.45 ar nos Sul, 11 Mehefin ac yn fyw ar S4C.