Mae Abertawe ymysg yr ugain clwb yn y byd sy’n talu’r swm mwyaf i’w chwaraewyr.

Tra mae Barcelona ar dop y rhestr o glybiau sy’n talu’r swm mwyaf i’w chwaraewyr, mae Abertawe yn safle rhif 19.

Mae’r clwb o dde Cymru yn talu £92 miliwn mewn cyflogau i chwaraewyr y flwyddyn – yr un faint â Stoke City.

Ac er bod clybiau Uwch Gynghrair Lloegr ymysg y rhai sy’n talu’r swm mwyaf i’w chwaraewyr, Barcelona sydd â’r bil cyflog uchaf sef £279m.

Yna mae Man U ar £265m, Chelsea ar £256m a Real Madrid ar £250m.

Mae Abertawe yn gwario mwy ar gyflogau chwaraewyr nag Atletico Madrid (£86m), clwb sy’n cystadlu am La Liga yn Sbaen ac yn cyrraedd rowndiau terfynol a chynderfynol Cynghrair y Pencampwyr yn gyson.