Mae Chris Coleman wedi dweud nad oes ganddo awydd gadael Cymru am swydd gyda Crystal Palace.

Ers i Sam Allardyce benderfynu rhoi’r gorau iddi gyda’r clwb o Lundain, mae enw hyfforddwr Cymru wedi ei grybwyll fel olynydd posib iddo.

Roedd Chris Coleman yn arfer chwarae i Crystal Palace, ond mae’r brodor o Abertawe wedi mynnu mai aros gyda Chymru yw ei ddymuniad.

Mae gan y Cymry gêm bwysig bythefnos i ddydd Sul yn erbyn Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Yn ôl Chris Coleman, fe fyddai yn beth “cachwraidd” iddo droi ei gefn ar ei wlad a mynd i hyfforddi yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.

Fe gollodd Cymru 6-1 oddi cartref yn Serbia yn 2012 – gêm salaf Chris Coleman wrth y llyw – ac maen nhw yn teithio yno fis nesaf heb seren y tîm, Gareth Bale.

“Ni fyddai yn edrych yna dda pe bawn i yn neidio oddi ar y llong cyn i ni ddychwelyd i Serbia,” meddai Chris Coleman.

“Fe fyddai yn ymddangos yn gachwraidd hefyd… ges i chwip dîn yn Serbia.

“Mae yna ddipyn bach o sbeis yn perthyn i’r gêm oherwydd yr hyn ddigwyddodd yno y tro diwethaf, ond mae hon yn gêm rydw i’n edrych ymlaen ati yn eiddgar.

“Mae canlyniadau’r ddwy gêm nesaf [Serbia oddi cartref, Awstria gartref] yn anferthol o safbwynt beth fydd yn digwydd yn ystod yr ymgyrch…

“Tydw i ddim yn meddwl fod fy siwrne ar ben eto. Nid wyf yn barod i drosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn i rywun arall, ddim eto.”