Dydy tîm pêl-droed Abertawe ddim “ar y traeth”, yn ôl eu capten Jack Cork.

Mae’r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio’n gyson yn y byd pêl-droed i ddisgrifio timau sy’n chwarae heb fawr o bwrpas ar ddiwedd y tymor – sefyllfa y mae Abertawe ynddi ar drothwy diwrnod a gêm ola’r tymor yn erbyn West Brom yn Stadiwm Liberty brynhawn fory (3 o’r gloch).

Er mwyn dathlu’r ffaith fod Abertawe wedi sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair arall yn dilyn eu buddugoliaeth dros Sunderland yr wythnos diwethaf, aeth y chwaraewyr ar wyliau gyda’i gilydd i Ibiza am ychydig ddiwrnodau.

Ond mae capten y tîm, Jack Cork yn mynnu fod y gêm yfory’n dal yn  bwysig er mwyn gorffen y tymor yn gryf.

‘Blwyddyn anodd’

Dywedodd Jack Cork: “Fe fu’n flwyddyn anodd, ry’ch chi’n cael llawer o iselfannau yn y byd pêl-droed weithiau. Roedd yn rhyddhad mawr cael gorffen yr wythnos ddiwethaf, a gyda’r gêm ar ddydd Sul yr wythnos hon, roedd gyda ni ddiwrnod ychwanegol.

“Gawson ni dridiau i ffwrdd a dechrau nôl ddydd Mercher. Roedd nifer o’r bois wedi bod yn siarad am y peth, wnaethon ni siarad â’r rheolwr [Paul Clement] ac fe ddywedodd y byddai [gwyliau] yn iawn os oedden ni i gyd yn mynd gyda’n gilydd.

“Roedd yn braf. Dros y misoedd diwethaf, gallwch chi synhwyro bod ysbryd y tîm wedi bod yn dda iawn ac mae agosatrwydd wedi bod. Ry’n ni i gyd wedi gorfod cyd-dynnu.”

Dim dathlu

Er i Abertawe aros yn yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd tymor lle maen nhw wedi bod yn chwarae o dan dri rheolwr gwahanol – Francesco Guidolin, Bob Bradley a Paul Clement – dydy’r chwaraewyr ddim yn barod i ddathlu’r ffaith, yn ôl Jack Cork.

“Dyw e ddim yn rhywbeth ry’ch chi wir eisiau ei ddathlu oherwydd fe fu’n flwyddyn anodd.

“Ond mae’n rhyddhad i’w wneud e ac ry’n ni’n gwybod fod rhaid i ni weithio’n galed y flwyddyn nesaf fel nad ydyn ni yn y sefyllfa yma eto.

Straen

Mae Jack Cork yn cyfaddef fod y tymor diwethaf wedi bod yn “anodd” i’r chwaraewyr, a bod y gwyliau’n ffordd dda o ymlacio cyn bwrw iddi yn erbyn West Brom yfory.

“Mae wedi bod yn anodd. Roedd hi’n edrych fel pe baen ni’n ddiogel ar ôl y rhediad da gawson ni ym mis Ionawr a Chwefror.

“Ond fe gawson ni bedwar neu bump o ganlyniadau gwael ac roedden ni’n ôl ynddi eto.”