Mae tîm pêl-droed Abertawe yn aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.
Hull sy’n disgyn o’r adran ar ôl colli o 4-0 yn erbyn Crystal Palace ar Barc Selhurst.
Ar ôl curo Sunderland o 2-0 yn y Stadium of Light brynhawn ddoe, roedden nhw’n dibynnu ar Hull i golli er mwyn bod yn sicr o’u lle cyn diwrnod ola’r tymor.
Crystal Palace 0 Hull 4
Bydd ochenaid o ryddhad yn Abertawe yn dilyn y newyddion o Lundain, ar ôl iddyn nhw fod yn ansicr o’u lle drwy gydol y tymor.
Wrth i Paul Clement gael ei benodi’n drydydd rheolwr y tymor dros y Flwyddyn Newydd, roedd Abertawe bedwar pwynt yn is na’r safleoedd diogel ac yn wynebu’r posibilrwydd cryf o ddisgyn i’r Bencampwriaeth ar ôl chwe thymor.
Roedd Hull ar ei hôl hi ar ôl dwy funud yn dilyn camgymeriad amddiffynnol, ac fe fanteisiodd Wilfried Zaha i rwydo i’w dîm, sydd hefyd yn ddiogel yn dilyn y canlyniad.
Dyblodd Palace eu mantais gyda pheniad gan Christian Benteke, ac roedd y canlyniad yn sicr gyda goliau hwyr gan Luka Milivojevic o’r smotyn a’r eilydd Patrick van Aanholt.
Sunderland a Middlesbrough yw’r ddau dîm arall sy’n disgyn o’r Uwch Gynghrair.