Sunderland 0–2 Abertawe
Mae lle Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr bron iawn yn ddiogel am dymor arall wedi iddynt drechu Sunderland yn y Stadium of Light brynhawn Sadwrn.
Llorente a Norton a sgoriodd y ddwy gôl holl bwysig sy’n rhoi’r Elyrch bedwar pwynt yn glir o Hull a safleoedd y gwymp.
Naw munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen gyda gôl nodweddiadol, cic rydd Gylfi Sigurdsson a pheniad Fernando Llorente.
Felly yr arhosodd hi tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner pan ddyblodd Kyle Naughton y fantais mewn steil. Derbyniodd y cefnwr dde y bêl gan Ki Sung-yueng ar ochr y cwrt cosbi ac yn hytrach na’i chroesi fe anelodd ergyd wych i’r gornel uchaf.
Cafodd y tîm cartref gyfnodau gwell yn yr ail hanner ond daliodd Abertawe eu gafael ar y lechen lân yn gyfforddus i sicrhau’r tri phwynt.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Abertawe yn yr ail safle ar bymtheg, bedwar pwynt yn glir o Hull. O ystyried gwahaniaeth goliau’r ddau dîm, bydd angen dwy fuddugoliaeth ar Hull bellach i suddo’r Elyrch.
Bydd buddugoliaeth gartref yn erbyn West Brom ar y Sul olaf yn ddigon i Abertawe beth bynnag fydd canlyniadau Hull.
.
Sunderland
Tîm: Pickford, Jones, Kone, O’Shea, Manquillo, Larsson, Denayer (Gibson 20’), Ndong, Borini, Defoe, Anichebe (Khazri 37’)
Cardiau Melyn: Larsson 58’, Khazri 78’, Gibson 84’, Borini 86’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mason, Olsson, Ki Sung-yueng (Fer 67’), Britton (Cork 77’), Sigurdsson, Carroll, Ayew, Llorente (Narsingh 89’)
Goliau: Llorente 9’, Naughton 45+2’
.
Torf: 38,781