Caerfyrddin 1–2 Met Caerdydd      
                                              

Mae Met Caerdydd gam yn nes at chwarae pêl-droed Ewropeaidd ar ôl trechu Caerfyrddin ar Barc Waun Dew yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Ewropa brynhawn Sul.

Sgoriodd Charlie Corsby gôl hwyr iawn i sicrhau lle’r myfyrwyr yn y rownd derfynol gyda Bangor yr wythnos nesaf.

Y tîm o Gaerdydd heb os a ddechreuodd orau a gwastraffodd Rhys Thomas gyfle da i agor y sgorio yn y munud cyntaf.

Liam Griffiths a ddaeth agosaf yn y pen arall ond gwnaeth Will Fuller yn dda i arbed peniad blaenwr Caerfyrddin.

Daeth cyfle gorau’r hanner i Met yn y munud olaf cyn yr egwyl ond ceisiodd Corsby ganfod Eliot Evans yn y cwrt cosbi er bod ganddo gyfle da i fynd ei hun a chafodd ei bas ei rhyng-gipio.

Hanner cyntaf di sgôr felly ond fu dim rhaid aros yn hir am gôl ar ôl troi. I Gaerfyrddin y daeth hi wrth i Griffiths droi ac ergydio’n effeithiol yn y cwrt cosbi wedi i’r myfyrwyr fethu â chlirio tafliad hir.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal ar yr awr diolch i gamgymeriad amddiffynnol gan Gaerfyrddin. Ceisiodd Dwaine Bailey benio’r bêl yn ôl i’w gôl-geidwad, Lee Idzi, ond adlamodd yn syth i lwybr Adam Roscrow a chododd yntau hi’n gelfydd dros Idzi ac i gefn y rhwyd.

Roedd hi’n ymddangos fod y gêm yn anelu am amser ychwanegol wedi hynny ond roedd gan Met syniadau gwahanol. Roedd dau funud o amser brifo wedi mynd pan ddaeth cic rydd lydan Josh Barnett o hyd i Corsby wrth y postyn agosaf a pheniodd yntau’r bêl i gefn y rhwyd gydag Idzi yn nhir neb.

Doedd dim digon o amser i’r Hen Aur ymateb a Met Caerdydd felly fydd yn teithio i Nantporth ddydd Sadwrn i herio Bangor am y fraint o gynrychioli Uwch Gynghrair Cymru yng nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Cummings, Surman, Bailey (Hanford 70’), Sheehan, Vincent, Harling, Morgan, Carroll, Griffiths, Thomas

Gôl: Griffiths

Cerdyn Melyn: Sheehan 67’

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Tylor, Lewis, Woolridge, McCarthy, E. Evans (Lam 68’), Barnett (Bowler 90+4’), W. Evans, Corsby, Roscrow, Thomas

Goliau: Roscrow 60’, Corsby 90+2’

Cardiau Melyn: McCarthy 36’, Barnett 40’, Thomas 83’

.

Torf: 417