Huddersfield 0–3 Caerdydd           
                                                

Daeth tymor siomedig Caerdydd yn y Bencampwriaeth i ben ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn Huddersfield ar y Sul olaf.

Roedd yr Adar Gleision eisoes gôl i ddim ar y blaen yn Stadiwm John Smith’s cyn i gôl-geidwad Huddersfield a Chymru, Danny Ward, gael ei anfon oddi ar y cae. Ychwanegodd yr ymwelwyr ddwy gôl arall yn erbyn y deg dyn i gwblhau’r fuddugoliaeth.

Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Kenneth Zohore’r Cymry ar y blaen gyda’i ddeuddegfed gôl o’r tymor.

Roedd y tîm cartref i lawr i ddeg dyn wedi i Ward lawio tu allan i’r cwrt cosbi wedi ugain munud a dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny.

Dyblodd Joe Bennett fantais Caerdydd cyn yr egwyl cyn ychwanegu ei ail ef a thrydedd ei dîm ugain munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn golygu fod tîm Neil Warnock yn gorffen y tymor yn y deuddegfed safle, yn crafu i mewn i hanner uchaf tabl y Bencampwriaeth gan eu bod wedi sgorio mwy o goliau na Aston Villa.

.

Huddersfield

Tîm: Ward, Smith, Hefele, Schindler, Lowe, Hogg (Whitehead 79’), Mooy, Scannell (Coleman 21’), Brown (Wells 67’), van La Parra, Quaner

Cerdyn Coch: Ward 20’

.

Caerdydd

Tîm: Murphy, Peltier, Morrison, Connolly,, Richards, Gunnarsson, Ralls, Bennett, Pilkington (Wittingham 63’), Zohore (Lambert 79’), Hoilett (M. Harris 67’)

Goliau: Zohore 7’, Bennett 29’, 71’

Cerdyn Melyn: Richards 75’

.

Torf: 20,583