Mae’n benwythnos allweddol i bedwar clwb o Uwch Gynghrair Cymru’r penwythnos hwn.

Ddydd Sadwrn, fe fbydd Y Drenewydd yn teithio i Nantporth i wynebu Bangor; cyn i fyfyrwyr Met Caerdydd deithio i Gaerfyrddin ddydd Sul.

Mae caplan Y Drenewydd, Marc Morgan, yn gobeithio bydd Y Drenewydd yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf, wedi iddyn nhw gael cymaint o fwynhad ddau dymor yn ôl.

“Roedd dechrau’r tymor yn un araf, doedd neb yn disgwyl i ni fod yn y safle oedden ni,” meddai wrth golwg360.

“Ond yn y gêm  gyfartal 3-3 yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Ionawr, ar ôl sgorio dwy gôl hwyr, oedd yr hyder yn ôl – honno oedd y gêm wnaeth newid pethau.

“Mae’r rheolwr, Chris Hughes, wedi dweud mai aros yn y gynghrair yw’r flaenoriaeth, ac ar ôl sicrhau hynny, y nod wedyn oedd cyrraedd y gemau ail-gyfle. Mae’r clwb wedi cael blas o Ewrop ac mae atgofion melys o’r teithiau i Malta a Denmarc yn 2015.

“Yn amlwg mae Chris yn rhoi’r pwysau ar Fangor yn awgrymu mai nhw ydi’r ffefrynnau, ond rydan ni’n chwarae’n dda ar hyn o bryd. Dyma’r bedwaredd waith yn olynol i’r Drenewydd gyrraedd y gemau ail-gyfle, cyflawniad gwych i glwb sydd gyda chyllideb lai na nifer o glybiau’r gynghrair.”

Cyn-ddyfarnwr

Mae Marc Morgan yn dod yn wreiddiol o’r de, ac yn gyn-ddyfarnwr. Mae ei swydd yn gaplan y clwb ers wyth mlynedd yn un wirfoddo,l ac mae yno i helpu pawb yn y clwb, meddai – chwaraewyr, y tîm hyfforddi, y pwyllgor, yr academi a’r cefnogwyr.

Fel cefnogwyr sy’n mynychu nifer o gemau, mae’n siomedig bod Alex Fletcher heb gael ei enwebu am chwaraewr ifanc y tymor.

“Mae Alex yn chwaraewr dawnus – digon da i chwarae ar lefel uwch,” meddai. “Siom arall ydi na fydd Jason Oswell ar gael oherwydd roedd wedi trefnu taith i Uganda o  flaen llaw fel rhan o gwrs ffisiotherapi. “Mi fydd yn golled, mae wedi sgorio 22 gôl y tymor hwn, ond roedd y clwb yn gwybod y sefyllfa, a bydd Chris Hughes wedi paratoi…”

Gêm anodd

Gyda record cartref ail orau yn y gynghrair gan Fangor bydd yn gêm anodd i’r Drenewydd – ond, gyda’r caplan ymhlith eu cefnogwyr bydd Y Drenewydd yn gobeithio cymryd cam yn agosach at ymuno â’r Seintiau, Cei Connah a’r Bala sydd eisoes wedi ennill eu lle yn Ewrop.

Mae Bangor wedi gorffen yn y pedwerydd safle,  y safle gorau ers pedair blynedd, ac mi fyddan nhw’n gobeithio sicrhau chwarae yng Nghynghrair Ewrop ers iddyn nhw golli yn erbyn Stjarnan o Wlad yr Iâ, a gyda chyn chwaraewr Uwch gynghrair Lloegr Gary Taylor-Fletcher wrth y llyw.

Bydd y Dinasyddion yn sicr wedi gwneud eu gwaith gartref, ac mae disgwyl  i bawb yn eu carfan fod ar gael.