Carlisle 2–1 Casnewydd   
                                                                

Methodd Casnewydd gyfle i sicrhau eu lle yn yr Ail Adran wrth golli oddi cartref yn erbyn Carlisle brynhawn Sadwrn.

Gan i Hartlepool golli, byddai buddugoliaeth yng Nghaerliwelydd wedi sicrhau lle’r Alltudion yn y gynghrair am dymor arall. Ond colli fu eu hanes er iddynt fynd ar y blaen, a bydd yn rhaid iddynt aros tan y Sadwrn olaf i wybod eu tynged.

Peniodd Mickey Demetriou yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen mewn steil wedi dim ond deuddeg munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Ond trodd y gêm ben i waered mewn cyfnod byr yn yr ail hanner wrth i Nicky Adams ei hennill hi i’r tîm cartref ar yr awr, ddau funud yn unig wedi i Jabo Ibehre unioni pethau.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn yr ail safle ar hugain yn y tabl, ond gyda dim ond dau bwynt yn eu gwahanu hwy a Hartlepool yn y trydydd safle ar hugain bydd yn rhaid iddynt aros tan wythnos nesaf i sicrhau diogelwch.

Mae Casnewydd yn croesawu Notts County i Rodney Parade ar y Sadwrn olaf tra mae Hartlepool yn herio Doncaster, tîm sydd yn gobeithio ennill y gynghrair.

.

Carlisle

Tîm: Gillespie, Liddle, Raynes, gilledphey, Grainger, Devitt, Lambe, Joyce, Adams (Miller 90+3’), Proctor (Miller 76’), Ibehre

Goliau: Ibehre 58’, Adams 60’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, Demetriou, O’Brien, Butler, Owen-Evans, Labadie, Randall (Bennett 45’), Samuel (Williams 45+4’), Rigg, Bird (John-Lewis 72’)

Gôl: Demetriou 12’

Cerdyn Melyn: Owen-Evans 88’

.

Torf: 5,402