Emlyn Lewis
Roedd gŵr o Geredigion sy’n chwarae ei bel-droed i Met Caerdydd, yn gobeithio am benwythnos olaf llwyddiannus i’r tymor domestig ddydd Sadwrn diwetha’.

Ac, ar ddiwedd tymor cynta’r tim yn Uwch Gynghrair Cymru, mae Emlyn Lewis o Aberaeron bellach yn edrych ymlaen at y gemau ail-gyfle.

“I feddwl mai dyma’n tymor cyntaf ni yn yr Uwch Gynghrair, a bod gyda ni siawns o chwarae yn Ewrop y tymor nesa’, mae’n anhygoel,” meddai wrth golwg360.

Fe ddechreuodd Emlyn Lewis ei yrfa gyda thîm iau Aberaeron, ac wedyn academi Aberystwyth. Fe chwaraeodd wedyn i Benrhyncoch yn y Cymru Alliance, “cynghrair galed”,  meddai.

“Roedd e’n dipyn o brofiad i fachgan ifanc chware yn y Cymru Alliance. Fe symudais i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol a chwarae am ddau dymor yng nghynghrair y de…

“Roedd y cam i fyny i Uwch Gynghrair Cymru yn un mawr,” meddai wedyn. “Mae’r chwarae’n gyflymach, ac fel tîm fe gymrodd e dipyn o amser i ni arfer gyda hynny, ac roedd yn rhaid dysgu’n gyflym. R oedd rhaid dysgu’n sydyn.

“Roedd yr hyfforddwyr wedi nodi mai aros yn y gynghrair oedd y nod, ond oeddan nhw hefyd yn gobeithio biasau’n yn dysgu’n sydyn, roedd dim disgwyliadau allanol, ond oedd y garfan eisiau llwyddo. Hefyd yn bwysig ydi athroniaeth y clwb – bod pawb yn tynnu â’i gilydd.”

“Off!”

Mae Emyr wedi cael llawer o ganmoliaeth am ei berfformiadau, ond yr isafbwynt y tymor hwn oedd cael ei anfon oddi ar y cae yn erbyn Llandudno saith gêm i fewn i’r tymor, gan feddwl mai camgymeriad oedd y penderfyniad gan y dyfarnwr.

“Ro’n i’n siomedig, ond wnaethon ni ennill y  gêm, roedden ni wedi ennill ein gêm gyntaf gyda deg dyn, roedd yn dangos cymeriad y garfan, roedd yn rhoi hyder i ni,” meddai.

“A phan wnaethon ni guro Bangor gartre’ o 4-0 roedden ni’n gwybod ein bod ni’n gallu cystadlu ar y lefel hyn. Eto mae’r canlyniadau ar ôl yr hollt wedi bod yn siomedig , ond gyda buddugoliaeth yng Nghaerfyrddin wythnos diwethaf mae’r hyder yn ol.”