Fe fydd Cymru yn wynebu Ffrainc yn eu gêm agoriadol yn nhwrnament dan-20 oed Toulon ddiwedd mis Mai.

Fe fydd y cochion yn cystadlu yn y gystadleuaeth am y tro gyntaf erioed ddydd Mawrth, Mai 30.

Maen nhw wedi cael eu gwahodd ar ôl perfformiadau arwrol tîm Chris Coleman yn Ewro 2016, ac fe fydd tîm ifanc y rheolwr newydd, Rob Page, yn dechrau ar eu hymgyrch yn Stade de Lattre, Aubagne, trwy wynebu’r tîm sydd wedi ennill y twrnament ddwsin o weithiau.

Yna, wynebu Bahrain ar Fehefin 2 yn Stade Parsemain; cyn gorffen y grŵp yn erbyn Y Traeth Ifori ar Fehefin 5.

Pe bai Cymru yn mynd drwodd o’r grŵp, bydd y rowndiau cyn-derfynol yn cael eu cynnal ddydd Iau, Mehefin 8; a’r rownd derfynol ar Fehefin 10.

Lloegr ydyw deiliad y gystadleuaeth, ar ôl i’r tîm o dan arweiniad Gareth Southgate ennill y ffeinal yn 2016 yn erbyn Ffrainc o 2-1.

Grŵp A: Lloegr, Siapan, Angola, Ciwba

Grŵp B: Ffrainc, Traeth Ifori, Cymru, Bahrain

Grŵp C: Brasil, Y Weriniaeth Tsiec, Yr Alban, Indonesia