Bangor 0–2 Caerfyrddin     
                                                              

Sicrhaodd Caerfyrddin gêm gartref yn y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Roedd yr Hen Aur eisoes yn gwybod mai myfyrwyr Met Caerdydd fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle am le yn Ewrop y tymor nesaf, ond mae’r fuddugoliaeth yn Nantporth yn sicrhau mai hwy fydd yn gorffen yn bumed yn y tabl ac yn cael chwarae gartref yn y rownd gynderfynol.

Deuddeg munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Liam Thomas y sgorio i’r ymwelwyr, y blaenwr yn gorffen yn daclus wedi i’r bêl adlamu’n garedig iddo yn y cwrt cosbi.

Wnaeth Bangor ddim bygwth llawer yn y pen arall a phan geisiodd Gary Roberts ei lwc gyda chic rydd o ongl dynn roedd Lee Idzi yn ddigon effro i arbed yn erbyn ei gyn glwb.

Daeth ail i Gaerfyrddin ac ail i Thomas yn gynnar yn yr ail gyfnod pan fanteisiodd y blaenwr ar beniad amddiffynnol erchyll gan Sergio Uyi.

Cafodd Lewis Harling gyfle da i ychwanegu trydedd ond gwnaeth Matthew Hall arbediad da i gadw’r Dinasyddion o fewn dwy.

Nid yw’r canlyniad yn effeithio safle terfynol Bangor yn y tabl. Maent yn gorffen yn bedwerydd ac yn paratoi i wynebu’r Drenewydd yn y gemau ail gyfle. Bydd enillwyr y gêm honno wedyn yn wynebu Caerfyrddin neu Met Caerdydd am le yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

.

Bangor

Tîm: Hall, Roberts, Uyi, Connolly, Wilson, Baio, Gosset (Allen 60’), Jackson, Taylor-Fletcher (Aziamale 76’), Edwards, Rittenberg

Cerdyn Melyn: Baio 90+2’

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Cummings, Vincent, Surman, Sheehan (Hanford 81’), Bailey, Carroll, Morgan, Harling, L. Thomas (Ellis 85’), M. Thomas (Griffiths 18’)

Goliau: L. Thomas 12’, 52’

Cardiau Melyn: L. Thomas 64’, Harling 90+2’

.

Torf: 396